Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018
Amser:
08.30 -
08.52
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr wythnos hon
O ran cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dadl ddydd Mercher ar ‘adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol’, darllenodd Arweinydd y Tŷ y datganiad a ganlyn:
Rydym yn ceisio datrys mater cyfansoddiadol ynghylch cwmpas y pŵer a nodir yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hwn yn darparu i'r Cynulliad y pŵer i orfodi tystion a thystiolaeth mewn perthynas â gwahanol faterion sy'n berthnasol i swyddogaethau Gweinidogion Cymru. O ystyried y safbwyntiau gwahanol a fabwysiadwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, rhaid i'r Prif Weinidog weithredu i egluro'r gyfraith yn y maes hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cynnig y Blaid Geidwadol am y rhesymau canlynol:
(a) Yn gyntaf, oherwydd bod y cynnig y tu hwnt i gwmpas pwerau'r Cynulliad o dan adran 37 ac, yn yr un modd, ultra vires fyddai unrhyw hysbysiad dilynol o dan adran 38. Mae hyn oherwydd nad yw adran 37 ond yn cwmpasu materion sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yn wahanol i swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig. Mae mwyafrif helaeth o'r swyddogaethau sy'n berthnasol i'r ffordd y mae Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn gweithredu yn arferadwy gan y Prif Weinidog a chan Weinidogion Cymru ar y cyd. Fodd bynnag, comisiynwyd yr adroddiad ar y datgelu a'i gynnal yn unol â swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig.
(b) Yn ail, mae'r cynnig yn codi amheuaeth ynghylch cynnal busnes y Cynulliad yn briodol. Mae'n arfer hir sefydlog gan bob Llywodraeth yn y DU beidio â datguddio adroddiadau ymchwiliad i achosion o ddatgelu, a hynny oherwydd y risg o wneud niwed i ymddygiad a chyfrinachedd ymchwiliadau yn y dyfodol. Fel yr eglurwyd yn llythyr yr Ysgrifennydd Parhaol dyddiedig 16 Mawrth 2018, mae fframwaith safonol ar gyfer ymchwiliadau i achosion o ddatgelu. Y perygl yw y byddai darparu manylion penodol am y fframwaith yn tanseilio effeithiolrwydd ymchwiliadau yn y dyfodol. Hefyd, mae risg glir na fyddai unigolion yn barod i gynnig gwybodaeth o'u gwirfodd na chydweithio gydag ymchwiliadau yn y dyfodol pe bai'n rhaid rhannu adroddiadau ar achosion o ddatgelu â'r Cynulliad.
(c) O ystyried yr ymchwiliadau cyfredol sy'n ymdrin â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol, mae'n hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau eglurder ynghylch cwmpas y ddarpariaeth hon ar hyn o bryd.
Ni fyddai'n briodol i'r cynnig uchod fynd rhagddo cyn i'r cwestiwn cyfreithiol a chyfansoddiadol pwysig hwn gael ei ddatrys.
Dywedodd y Llywydd i'r llythyr ddod i'w llaw neithiwr, ei bod yn gofyn cyngor, ac y bydd yn ymateb maes o law. Efallai y bydd angen i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull rywbryd. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd modd iddi rannu'r llythyr â hwy am ei fod wedi'i nodi'n 'gyfrinachol'.
Dywedodd Paul Davies ei fod o'r farn bod cynnig y Ceidwadwyr ar "Adroddiad Ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol" mewn trefn, yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a gafodd y grŵp a oedd, yn ei farn ef, yn gywir.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Ebrill 2018 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth (30 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) –
gohiriwyd tan 2 Mai
Dydd Mercher 2 Mai 2018 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud) - gohiriwyd o 21 Mawrth
·
Dadl Fer - Nick Ramsay
(Mynwy)- gohiriwyd i
23 Mai
Dydd Mercher 9 Mai 2018 -
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd Rheolwyr Busnes i beidio ag amserlennu'r cynnig ar gyfer dadl, gan eu bod o'r farn iddo gael ei ddisodli gan gynnig y Ceidwadwyr Cymru a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher. Nododd Arweinydd y Tŷ fod gan Lywodraeth Cymru yr un anawsterau â'r cynnig hwn â'r rhai a nodwyd ganddi ynghylch cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer dydd Mercher.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 13 Mawrth i gyfeirio'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 6 Gorffennaf 2018, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 12 Hydref 2018.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ nad oedd y Llywodraeth am gael Rheol Sefydlog annibynnol ac y dylid cynnwys y darpariaethau yn Rheol Sefydlog 27. Dywedodd Paul Davies ei fod yn credu y byddai Gorchymyn Sefydlog annibynnol yn briodol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgorau.
Cadarnhaodd yr Ysgrifenyddiaeth y byddant yn dod â phapur i gyfarfod yn y dyfodol yn cynnwys y ddwy opsiwn.
Nododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd a chytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor yn ei hysbysu y byddai ceisiadau i gwrdd y tu hwnt i'w amser yn cael eu hystyried fesul achos.